Eisteddfod Cylch Rhuddlan 2019

Urdd- Llongyfarchiadau mawr i’r plant hynny a fu’n cystadlu dydd Sadwrn diwethaf yn yr Eisteddfod Sir. Llwyddiannau yn cynnwys y canlynol:

Alys Cornelius- Cyntaf efo’r Unawd o dan 10 oed.
Eivissa Bancroft- Trydydd efo’r Unawd o dan 10 oed.
Eryn Williams- Trydydd efo’r Unawd Alaw Werin o dan 12 oed.
Bethan Cornelius- Trydydd efo’r Unawd o dan 8 oed
Eryn Williams a Jasmine Hemmings- Trydydd efo’r ddeuawd Cerdd Dant.

Pob lwc i Alys, fydd yn mynd ymlaen i gystadlu yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd yng Nghaerdydd yn ystod wythnos Sulgwyn- da iawn ti am gynrychioli Ysgol y Llys a Sir Ddinbych yn y gystadleuaeth.

Diolch- Hoffwn ddiolch hefyd i Mrs Ffion Trefor Davies sydd wedi bod yn gosod ac yn hyfforddi ein plant i gystadlu efo’r gerdd dant eleni. Mae Mrs Davies yn gwirfoddoli ei gwasanaeth yn flynyddol i’r ysgol ac yn sicrhau fod traddodiad o ganu cerdd dant yn parhau yma yng Nghylch Rhuddlan- mawr yw ein dyled iddi.

Urdd- Congratulations to all those pupils who took part in the Urdd County Eisteddfod at Ruthin last Saturday. The standard of competing was exceptionally high. Ysgol y Llys successes include the following:

Alys Cornelius- First place in the Solo under 10
Eivissa Bancroft- Third place in the Solo under 10
Eryn Williams- Third in the Individual Folk Song under 12.
Bethan Cornelius- Third place in the Solo under 8
Eryn Williams and Jasmine Hemmings- Third place in the ‘Cerdd Dant’ duet.

Good luck to Alys who will now go on to compete in the Urdd National Eisteddfod, which is held in Cardiff this years during Whitsun Week. Good luck Alys in representing Ysgol y Llys and Denbighshire.

Thanks- Special thanks on behalf of the school, goes to Mrs Ffion Trefor Davies, an ex-teacher here at Ysgol y Llys who returns every year to volunteer to train the pupils to compete in the unique tradition of ‘Cerdd Dant’ singing (a tradition unique to Wales where the voice/melody differs to the arrangement on the harp). We are really grateful to Mrs Davies and thank her for her continued dedication to Ysgol y Llys- diolch yn fawr!