Urdd a’r Coronafeirws / Urdd Coronavirus

16.03.2020
Annwyl gyfaill,
Hoffwn rannu gyda chi ddatganiad rydym fel mudiad yn ei ryddhau heddiw (amgaeedig)
Mae hwn yn gyfnod pryderus ac yn fregus i ni gyd fel sefydliadau yng Nghymru ond mae’r penderfyniad wedi ei wneud er lles ac iechyd ein haelodau a staff.
Yn amlwg fel cystadleuwyr Eisteddfod yr Urdd Sir Ddinbych 2020, mae hwn yn newyddion siomedig iawn i chi. Fe fyddwn yn cysylltu’n fuan gyda threfniadau Eisteddfod 2021.
Rwy’n ddiolchgar iawn i chi fel partneriaid i’r mudiad am eich cefnogaeth a dwi’n siŵr eich bod yn deall y rhesymeg tu ôl y penderfyniadau anodd hyn i’r Urdd ac i Gymru.
Os oes gennych gwestiynau pellach mae croeso i chi gysylltu gyda eich cyswllt dyddiol o fewn yr Urdd.

Dear friend,
Please see attached a statement we as an organization are releasing today.
This is a challenging, worrying and financially vulnerable time for the Urdd and a number of organizations in Wales but the decision has been made for the health and wellbeing of our members and staff.
Obviously as competitors of the Denbighshire 2020 Urdd Eisteddfod, this is very disappointing news for you. We will be in touch shortly with 2021 Eisteddfod arrangements.
I am very grateful to you as partners for your support and I’m sure you understand the rationale behind these difficult decisions for the Urdd and for Wales.
If you have any further questions please do not hesitate to contact me or your Urdd contact.
Yn gywir,

Sian Lewis
Prif Weithredwr – Urdd Gobaith Cymru

datganiad-cyhoeddus-urdd-a-coronavirus