Gweithgareddau’r Urdd 2020-2021 Urdd activities

Annwyl Ysgolion Dinbych,

(Please scroll down for English)​

Bellach hanner ffordd drwy’r tymor newydd, fe wyddwn fod yr wythnosau diwethaf wedi bod yn rai prysur dros ben i chi, a diolch i chi am bopeth rydych chi’n ei wneud dros blant a phobl ifanc Cymru yn ystod y cyfnod heriol hwn.

Mae aelodaeth yr Urdd ar agor ers ambell wythnos ac rydym wedi gweld nifer fawr yn ymaelodi’n barod ar gyfer 2020/2021. Oherwydd y sefyllfa nid yw pecynnau aelodaeth wedi eu postio allan eleni, ond os dymunwch ymaelodi disgyblion neu eich ysgol, mae’r holl wybodaeth sydd ei angen arnoch ar ein gwefan, neu cysylltwch â ni ar aelodaeth@urdd.org

Ymaelodi disgyblion
Efallai i chi glywed bod yr Urdd yn wynebu cyfnod anodd. Yn wir, mae angen cefnogaeth arnom yn fwy nag erioed, ac fe fyddwn ninnau yma i gefnogi ein aelodau dros y flwyddyn nesaf hefyd.

Gyda’r cyfyngiadau sy’n eu lle, rydyn ni’n edrych ar gyfnod o wneud pethau ychydig yn wahanol.

Dyma fwy o wybodaeth am yr hyn mae’r Urdd yn gynnig eleni:

Chwaraeon
Mae gweithgareddau chwaraeon fel clybiau nofio, pêl-droed a phêl-rwyd yn ail-ddechrau’n raddol yn ôl cyfarwyddyd Llywodraeth Cymru. Ewch i weld pa weithgareddau sy’n eich ardal chi.

Eisteddfod yr Urdd a’r Celfyddydau
Bydd cyfleoedd i aelodau gymryd rhan boed wyneb yn wyneb neu’n rhithiol. Ewch i ddysgu am Cefn Llwyfan – cyfres o ddigwyddiadau digidol yn rhoi cyfle i aelodau gael cyngor gan rai o arbenigwyr ac enwau mawr y byd celfyddydol, gan gynnwys Bryn Terfel, Mali Ann Rees, Ameer Davies-Rana a mwy!

Gweithgareddau digidol
Eleni, bydd mwy o weithgareddau digidol nag erioed. Dyma be sydd ar y gweill:

  • Yr Awr Fawr – gweithgareddau hwyliog dros Zoom i blant cynradd.
  • Yr Awr Fawr (D) – sesiynau cyfeillgar i ddysgwyr a siaradwyr ail iaith cynradd.
  • Yr Awr Fwy – gweithgareddau digidol i bobl ifanc 12-16 oed.
  • Cymraeg Bob Dydd – sesiynau i ddysgwyr uwchradd.

Cylchgronau digidol
Mae holl gylchgronau’r Urdd yn ddigidol ac am ddim dros y flwyddyn nesaf – mae croeso i chi danysgrifio fel ysgol i dderbyn pob rhifyn yn ddigidol, neu, mae croeso i blant danysgrifio gyda’u cyfeiriadau Hwb.

Ysgolion
Mae ein swyddogion Chwaraeon, Cymunedol ac Awyr Agored yn gweithio gydag ysgolion ledled Cymru yn ymweld yn ystod oriau ysgol i gynnal gweithgareddau amrywiol i blant. Am fwy o wybodaeth cysylltwch â ni arcymunedol@urdd.org

Gwersylloedd
Er bod Gwersyll Llangrannog a Glan-llyn ar gau i’r ymweliadau preswyl arferol, mae nhw’n parhau i weithredu fel canolfannau dydd

Mae’r holl wybodaeth ar ein gwefan neu gallwch gysylltu gyda’r adrannau unigol os hoffech fwy o wybodaeth – mae eu manylion cyswllt ar gael yma https://www.urdd.cymru/cy/contact_us/

Fel y gwyddoch efallai, mae’r Urdd yn wynebu cyfnod anodd gyda thoriadau incwm enfawr a dyled sylweddol wedi eu gorfodi arnom o ganlyniad i Covid-19. Mae’r mudiad yn colli hanner y gweithlu o ganlyniad i’r toriadau, ac mae’r her yn un na wynebodd y mudiad ei thebyg o’r blaen.

Ar hyn o bryd, mae dros dri chwarter ein staff yn parhau i fod ar Furlough ond rydym yn gweithio ar gynllun i gael ein strwythur staffio newydd mewn lle erbyn y 1af o Dachwedd. Yn y cyfamser mae’r tîm cymunedol ar gael i ymateb i unrhyw ymholiadau – cymunedol@urdd.org neu gallwch gysylltu â’r adran berthnasol uchod.

Fe wyddwn nad yw hwn yn gyfnod hawdd i unrhyw un, ond edrychwn ymlaen at gydweithio a’ch cwmni dros y flwyddyn i ddod.

Cofion gorau,
Criw’r Urdd

 


 

Dear Dinbych Schools,

Now halfway through the new school term, we know that the past few weeks have been extremely busy for you and more challenging than usual. Thank you for all that you’re doing for the children and young people of Wales during this difficult time.

If you wish to enroll pupils as Urdd members, all the information you need is available on our website, or you are welcome to get in touch with us on aelodaeth@urdd.org.

Enroll pupils
Here is some information on what the Urdd is offering this year.

With current restrictions in place, we’re looking at a period of doing things a little differently, but we’re working hard to provide a valuable and exciting service for your pupils and our members over the next year.

Here’s what’s on:

Sports
Sporting activities such as swimming, football and netball clubs are gradually resuming as directed by the Welsh Government. Find out about the activities in your area.

Urdd Eisteddfod and the Arts
There will be plenty of opportunities for members to take part in various arts events whether face to face or virtual. Cefn Llwyfan is a series of digital events giving members the opportunity to get advice from some of the world’s leading experts and big names in the arts, including Bryn Terfel, Mali Ann Rees, Ameer Davies-Rana and more!

Digital activities
With more digital Urdd activities than ever, here’s what’s on:

  • Yr Awr Fawr (The Great Hour) – fun, weekly activities for primary school children.
  • Yr Awr Fawr (D) – friendly sessions for primary aged Welsh learners and second language speakers.
  • Yr Awr Fwy (The BIGGER Hour) – a series of digital events for 12-16 year olds.
  • Cymraeg Bob Dydd (Welsh Everyday) – friendly sessions for 12-16 year old Welsh learners

Digital magazines
All Urdd magazines are free and digital for the next year! Sign up for free to get your copies.

Schools
Our Sports, Community and Outdoor officers are working with schools across Wales providing visits and activities during school hours. Get in touch with us about this on cymunedol@urdd.org

Residential centres
Although Llangrannog and Glan-llyn centres are closed to the usual residential visits, they continue to operate as day centres and welcoming families for short breaks.

All the information is on our website, or you can get in touch with the relevant departments if you would like more details. Here’s how to contact us: www.urdd.cymru/en/contact_us/

As you may know, the Urdd is facing a difficult time with huge income cuts and significant debt imposed on us as a result of Covid-19. The organization is losing half the workforce as a result of the cuts, and the challenge is one that the Urdd have never faced before.

At present, over three quarters of our staff are still on Furlough but we are working on a plan to have our new staffing structure in place by November 1st. In the meantime the community team is available to respond to your queries – cymunedol@urdd.org or you can contact the relevant department.

We know this isn’t an easy time for anyone but we look forward to working with you over the next school year.

Best wishes,
Urdd team