****Neges yr Heddlu i Ddysgwyr – Calan Gaeaf / Noson Tan Gwyllt – Police Message for Learners – Halloween / Bonfire Night****

Annwyl Bennaeth,

Ar drothwy cyfnod clo arall yma yng Nghymru, gofynnwn yn garedig am eich cymorth i ledaenu’r neges isod gyda’ch dysgwyr;

Ar gyfer Calan Gaeaf

  • Gofynnwn i bawb feddwl sut y gallant gadw pawb yn ddiogel y Calan Gaeaf hwn gan beidio lledaenu Covid-19.
  • Ni chaniateir ‘Trick or Treat’ traddodiadol.
  • Ni chaniateir partïon Calan Gaeaf yn eich cartref neu mewn lleoliad arall .
  • Peidiwch â chwrdd ag unrhyw un dan do nad ydych yn byw gyda ac ni ddylech gyfarfod â’ch ffrindiau dan do neu yn yr awyr agored.
  • Dathlwch gartref a pheidiwch a mynd allan.

Ar gyfer Noson Tân Gwyllt

  • Ni fydd coelcerthi cyhoeddus nac arddangosfeydd tân gwyllt yn cael eu cynnal eleni.
  • Ni chaniateir unrhyw ymwelwyr fynd mewn i’ch gardd ac os bydd arddangosfa  tân gwyllt yn eich gardd yn troi’n barti yn eich tŷ, byddwch yn torri’r gyfraith ac yn rhoi pawb mewn perygl o ddal y Coronafeirws. Bydd eich rhieni/gofalwyr yn torri’r gyfraith.
  • COFIWCH mae’n anghyfreithlon prynu Tân Gwyllt dan 18 oed – gall eich rhieni/gofalwyr cael eu herlyn.
  • Ni ddylech danio tân gwyllt mewn parc neu le agored cyhoeddus. Mae pob awdurdod lleol yng Nghymru wedi gwahardd hyn.
  • Mae tanio tân gwyllt ar y stryd yn wrthgymdeithasol.  Gall fod yn risg tân ac mae’n erbyn y gyfraith.

Rydyn ni’n gofyn i bawb gadw eu hunain a’u teuluoedd yn ddiogel ac i wneud eu gorau i atal rhoi pwysau ychwanegol ar y gwasanaethau brys, sydd eisoes yn teimlo’r straen.

Yn ogystal mae’r tîm Swyddogion Heddlu Cymunedol Ysgolion wedi recordio dau flog sy’n addas ar gyfer eu dangos mewn ysgolion. Dilynwch y linc canlynol i’w gwylio;

https://schoolbeat.cymru/cy/newyddion/calan-gaeaf-2020/

***************************************************************

Dear Headteacher,

As we approach another lockdown period here in Wales, we kindly ask for your support in sharing the following message with your learners.  

For Halloween

  • We ask everyone to think how they can keep everyone safe this Halloween and not spread Coronavirus.
  • Traditional trick or treating is not allowed. 
  • Halloween parties in either your home or at another venue are not allowed.
  •  Do not to meet anyone indoors that you don’t live with and do not meet up with your friends either indoors or outdoors.
  • Celebrate at home instead of going out and about.

For Bonfire Night

  • There will be no organised public bonfires or firework displays this year.
  • No visitors are allowed into your garden. If a firework display in your garden turns into a party at your house, you are putting everyone at risk of catching the Coronavirus.   The adults who look after you will be breaking the law.
  • REMEMBER it is illegal to buy Fireworks under the age of 18 – your parents/carers could be prosecuted.
  • You shouldn’t set off fireworks in a park or other public open space.  All local authorities in Wales have banned this.
  • Setting off fireworks in the street is anti-social.  It can be a fire risk and is against the law. 

We kindly ask people to act responsibly and to keep each other safe. Staying safe and not adding extra pressure to the emergency services will be important.

In addition to the above the School Community Police Officer team have created two vlogs to support the above messaging. These vlogs are suitable for use in educational establishments. Please follow the link below to view;

https://schoolbeat.cymru/en/news/halloween-2020/

Diolch am eich cydweithrediad / Thank you for your cooperation.