Gwybodaeth am ysgolion yn ailagor yn Sir Ddinbych / Information on schools reopening in Denbighshire

Gweler datganiad isod gan Gyngor Sir Ddinbych am ail agor ysgolion ar ol hanner tymor.
Yn Ysgol y Llys, bydd yr ysgol yn agor i blant Meithrin, Derbyn a Blwyddyn 1 a 2 I gyd ar ddydd Mercher, Chwefror 24ain.
Bydd Hwb i blant weithwyr allweddol drwy’r wythnos. Byddwn yn rhannu mwy o wybodaeth, gan gynwys dolenni i gofrestru plant hwb yfory

Please see below statement from DCC regarding re-opening of schools for Foundation Phase pupils after half term.
We can confirm that all Nursery, Reception and Year 1 and 2 pupils will be offered to return to Ysgol y Llys from Wednesday, Feb 24th onwards.

Hwb provision for children of key workers will remain in place. (Monday and Tuesday for all key worker children who require it, and from Wednesday (24/02) onwards, for KS2 Key worker children only. Further details regarding re-opening for Foundation Phase, and links to register for key worker provision will go out to parents tomorrow.

Please note – KS2 pupils will continue to receive distance/remote  learning and there has been, as yet, no date for when they will return to school. When we receive any information regarding this, we will let you know as soon as possible.

Again, further information regarding arrangements for school re-opening for Foundation Phase pupils from Wednesday, February 24th, 2021 will be shared with parents tomorrow (12/02/21).

Yn gywir, Dyfan Phillips a Staff Ysgol y Llys.


Gwybodaeth am ysgolion yn ailagor yn Sir Ddinbych
Bydd dysgu wyneb yn wyneb yn ailddechrau ar gyfer disgyblion cyfnod sylfaen yn Sir Ddinbych o ddydd Mercher, Chwefror 24ain ar y cynharaf.
Daw hyn yn dilyn y cyhoeddiad diweddar gan Lywodraeth Cymru y bydd disgyblion rhwng 3 a 7 oed yn dychwelyd i ddysgu wyneb yn wyneb.
Mae’r Cyngor yn rhoi sicrwydd i rieni a gofalwyr y bydd ailagor ysgolion yn ddarostyngedig i’r holl fesurau diogelwch angenrheidiol fod ar waith, gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru ac yn unol â’u canllawiau gweithredol.
Caeodd ysgolion y sir ar 16eg Rhagfyr ac maent wedi aros ar agor ar gyfer dysgu ar-lein yn ogystal â dysgu wyneb yn wyneb i blant gweithwyr allweddol a dysgwyr agored i niwed.
Mae’r ddarpariaeth hon yn parhau i bawb sy’n gymwys.
Bydd prydau ysgol am ddim a chludiant ysgol ar gael i’r holl ddisgyblion cymwys o Chwefror 24, cyn gynted ag y bydd ysgolion yn ailagor.
Dywedodd y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts, Aelod Arweiniol y Cyngor dros Addysg, Gwasanaethau Plant ac Ymgysylltu â’r Cyhoedd: “Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi, oherwydd cyfraddau trosglwyddo cymunedol is o COVID-19, y gall ysgolion ailagor i ddisgyblion cyfnod sylfaen.
“Yn dilyn y cyhoeddiad hwn rydym wedi siarad â phob ysgol gynradd a chytunwyd y bydd addysg wyneb yn wyneb yn ailddechrau ledled y sir ar gyfer disgyblion cymwys.
“Mae hwn wedi bod yn gyfnod anodd i ddisgyblion, rhieni a staff ac rydym am sicrhau rhieni a gofalwyr y bydd ysgolion yn parhau i weithredu mesurau hylendid trwyadl yn ogystal â sicrhau bod yr holl reoliadau ac arweiniad ar ddiogelwch disgyblion yn cael eu dilyn.
“Hoffwn unwaith eto ddiolch i ddisgyblion, rhieni a staff am eu cefnogaeth yn ystod cyfnod sydd wedi bod yn heriol iawn a’r cymunedau maen nhw’n eu cefnogi ac yn gweithio ynddynt.”

Bydd Sir Ddinbych yn gweithio’n agos gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru a tim profi, olrhain ac amddiffyn GIG Cymru i adolygu lefelau achosion cyn ailagor ysgolion.

Mae rhieni a gofalwyr yn cael eu hatgoffa i gadw at fesurau pellhau cymdeithasol wrth ollwng neu gasglu eich plentyn o’r ysgol.
Am fwy o wybodaeth cysylltwch ag ysgol eich plentyn.​

Information on schools reopening in Denbighshire

Face to face learning will resume for foundation phase pupils in Denbighshire from Wednesday, February 24th at the earliest.

This follows the recent announcement by the Welsh Government that pupils aged between aged 3 and 7 will return to face to face learning.

The Council is reassuring parents and carers that school re-openings will be subject to all necessary safety measures being in place, supported by Welsh Government and in line with their operational guidance.

Schools in the county closed on 16th December and have remained open for online learning as well as face to face learning for the children of critical workers and vulnerable learners. 

This provision continues for all who are eligible.

Free school meals and school transport will be available for all eligible pupils from February 24, as soon as schools reopen. 

Cllr Huw Hilditch-Roberts, the Council’s Lead Member for Education, Children’s Services and Public Engagement, said: “The Welsh Government has announced that due to lower community transmission rates of COVID-19, that schools can re-open to foundation phase pupils.

“Following this announcement we have spoken with all primary schools and agreed face to face education will resume across the county for eligible pupils.

“This has been a difficult period for pupils, parents and staff and we want to reassure parents and carers that schools will continue to implement rigorous hygiene measures as well as ensure all regulations and guidance on pupils’ safety is followed.

“I would again like to thank pupils, parents and staff for their support during what has been a hugely challenging time and the communities they support and work in.”

Denbighshire will work closely with Public Health Wales and NHS Wales Test, Trace, Protect to review case levels prior to school reopening.

Parents and carers are being reminded to adhere to social distancing measures when dropping off or collecting your child from school.

For more information please contact your child’s school.

James Curran

Prif Reolwr – Cefnogi Ysgolion / Principal Manager – School Support

Gwasanaethau Addysg a Phlant / Education and Children’s Services

Ffôn / Phone: 01824 706254

Ffon Symudol/Mob: 07767 670007
james.curran@sirddinbych.gov.uk / james.curran@denbighshire.gov.uk

www.sirddinbych.gov.uk / www.denbighshire.gov.uk

Addysg yn Sir Ddinbych – Blog /  Education in Denbighshire Blog

Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg. Ni fydd unrhyw oedi wrth ymateb i ohebiaeth a dderbyniwyd yn Gymraeg.
We welcome correspondence in Welsh.  There will be no delay in responding to correspondence received in Welsh.