Apel Wcrain / Ukraine Appeal

Apel Wcrain – Mae plant y Cyngor Ysgol wedi cyfarfod bore ma ac yn awyddus i gefnogi ymgyrch Wcrain yn sgil y cyflafan sy’n digwydd yno ar hyn o bryd.

Mae’r plant yn awyddus i ni gynnal Diwrnod Apel Wcrain ar ddydd Gwener, Mawrth 11eg. Bydd holl cyfraniadau ariannol yn mynd tuag at elusen y Groes Goch sy’n cynnig cefnogaeth dyngarol i bobol sy’n dioddef yn sgil y rhyfel.

Bwriad y Cyngor Ysgol ydi annog disgyblion i wisgo fel y ganlyn:

Plant Cyfnod Sylfaen – Gwisgo dillad melyn
Plant Adran Iau – Gwisgo dillad glas

Yna, mae’r plant wedi penderfyny y byddem yn cael llun ysgol tu allan mewn lliwiau cenedlaethol Fflag Wcrain. Bydd holl elw’r achlysur yn mynd tuag at y Groes Goch- diolch o flaen llaw am eich cydweithrediad. Bydd y Cyngor Ysgol yn dosbarthu posteri yn hyrwyddo’r achlysur yn fuan iawn. Diolch yn fawr iddynt am fod mor feddylgar. Fel ysgol – ein nod fel staff ydi i meithrin cariad a parch ein disgyblion at eu hunain, ac yn bwysicach at eraill ac maen bwysig ein bod yn eu dysgu am yr hyn sy’n digwydd yn y byd, ond yn naturiol mewn modd sensitif a heb codi ofn.

Ukraine Appeal Our School Council Members met this morning and the topic of Ukraine was discussed and debated. The pupils would like to show our support and solidarity with Ukraine and have suggested a fundraiser. On Friday, March 11th the pupils would like to hold a Ukraine Day and have asked for the following.

Foundation Phase pupils to come to school dressed in Yellow clothes. Junior
KS2 pupils to come to school dressed in Blue clothes.

Pupils have asked for money donations via Parent Pay which will go towards the British Red Cross Charity which provides humanitarian relief for those directly affected by the war. The pupils have suggested we all stand together outside and form the colours of the Ukranian flag in solidarity. I am really proud of the children in actively promoting support, peace and kindness. As a staff, these are some of chore values of Ysgol y Llys and we are pleased that their actions and voices are being heard. Da iawn blant!