Sialens Ddarllen yr Haf / Summer Reading Challenge

Dyma wybodaeth am Sialens Ddarllen yr Haf eleni sy’n cael ei lansio yn eich llyfrgell leol ddydd Sadwrn yma, Gorffennaf 9fed.

Sialens Ddarllen yr Haf yw rhaglen darllen er pleser fwyaf y DU i blant, ac mae am ddim.  Mae’r Sialens yn cael ei chynnal yn flynyddol yn annog plant 4 i 11 oed i ddal ati i ddarllen yn ystod gwyliau’r haf.

Gall sgiliau darllen plant wanhau  yn ystod gwyliau hir yr haf os nad oes ganddynt fynediad rheolaidd at lyfrau ac anogaeth i ddarllen er pleser. Gall hyn fod yn broblem i ysgolion ei hunioni yn y tymor newydd. Mae Sialens Ddarllen yr Haf yn helpu drwy gyrraedd dros 700,000 o blant yn rheolaidd bob blwyddyn, gan eu hysgogi i ymweld â’r llyfrgell a pharhau i ddarllen yn ystod y gwyliau, gan helpu i gynnal eu sgiliau darllen a’u hyder.

Mae Sialens Ddarllen yr Haf eleni, ‘Y Teclynwyr’, yn ymwneud â gwyddoniaeth ac arloesi. Wedi’i datblygu mewn partneriaeth â Grŵp yr Amgueddfa Wyddoniaeth, bydd y Sialens yn ysbrydoli plant i ddefnyddio eu chwilfrydedd a’u creadigrwydd i ddarganfod y wyddoniaeth y tu ôl i fywyd bob dydd, ac mae’n dathlu rôl y dychymyg mewn darllen a’r gwyddorau.

I ymuno â’r Teclynwyr y cyfan sydd angen i’r plant ei wneud yw darllen 6 llyfr llyfrgell dros wyliau’r haf, a phob tro maen nhw’n ymweld â’r llyfrgell maen nhw’n cael gwobrau hwyliog, gan gynnwys medal a thystysgrif os ydyn nhw’n cwblhau’r Sialens. Mae’n hwyl ac am ddim i gymryd rhan, a bydd gennym hefyd weithgareddau gwych yn ein llyfrgelloedd i gefnogi’r thema Teclynwyr.

Os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch rhowch wybod i mi.

I am emailing to let you know that this year’s Summer Reading Challenge is being launched in your local library this Saturday, the 9th July.

The Summer Reading Challenge is the UK’s biggest free reading for pleasure programme for children. Taking place annually, the Challenge encourages children aged 4 to 11 to keep reading during the summer holidays.

Children’s reading can ‘dip’ during the long summer holidays if they don’t have regular access to books and encouragement to read for pleasure. This can be a problem for schools to put right in the new term. The Summer Reading Challenge helps by regularly reaching over 700,000 children each year, motivating them to visit the library and keep reading during the holidays, and in turn helping them to maintain their reading skills and confidence.

This year’s Summer Reading Challenge, ‘Gadgeteers’, is all about science and innovation. Developed in partnership with the Science Museum Group, the Challenge will inspire children to use their curiosity and creativity to discover the science behind the everyday, and celebrates the role of the imagination in both reading and the sciences.

To join the Gadgeteers all the children need to do is read 6 library books over the summer holidays, and each time they visit the library they get fun rewards, including a medal and certificate if they complete the Challenge. It’s fun and free to take part, and we will also have some great activities in our libraries to support the Gadgeteers theme.

If you need any further information please let me know.

Cofion / Regards,

Debbie Owen

Rheolwr Llyfrgell a Gwasanaethau Cwsmer (Rhyl a Prestatyn)
Library and Customer Services Manager (Rhyl and Prestatyn)