Llythrennedd a Rhifedd

Literacy and Numeracy

Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd Cenedlaethol

Mae’r Fframwaith yn nodi canlyniadau disgwyliedig blynyddol clir ym maes llythrennedd a rhifedd i bob dysgwr rhwng 5 a 14 oed. Ceir disgrifiadau manwl o beth mae disgwyl i blentyn allu ei wneud ar flwyddyn arbennig yn ei addysg gynradd ac uwchradd, o Flwyddyn Derbyn i Flwyddyn 9. Bydd ysgolion cynradd ac uwchradd yn defnyddio’r Fframwaith i sicrhau bod y broses o addysgu sgiliau llythrennedd a rhifedd wedi’i hymgorffori ym mhob pwnc ar draws y cwricwlwm yn hytrach na’i bod yn canolbwyntio ar wersi Saesneg, Cymraeg a Mathemateg yn unig. Y nôd gan Lywodraeth Cymru yw codi safonau llythrennedd a rhifedd yn genedlaethol. Bydd y Fframwaith yn caniatáu i bob athro fonitro cynnydd disgyblion o gymharu â disgwyliadau o flwyddyn i flwyddyn. Disgwylir i ysgolion adrodd yn flynyddol i rieni a gofalwyr ar gynnydd a chryfderau disgyblion unigol ac ar y meysydd y mae angen rhagor o gymorth arnynt o ran llythrennedd a rhifedd fel rhan o’r adroddiad blynyddol. Bydd yr adroddiadau’n cychwyn o Fedi 2014.

Beth yw’r Profion Cenedlaethol?

Cafodd pob dysgwr ym mlynyddoedd 2 hyd at 9 eu hasesu gan ddefnyddio’r profion cenedlaethol am y tro cyntaf ym mis Mai 2013 a chafodd pob rhiant wybodaeth am sgôr ac oedran darllen a rhifedd eu plant. Bydd y disgyblion yn sefyll profion darllen Cymraeg a Saesneg ac eleni, am y tro cyntaf, bydd dau brawf rhifedd – un prawf ar waith rhif ac un ar ddatrys problemau mathemategol. Bydd yr ysgol yn defnyddio’r canlyniadau hyn yn rhannol wrth benderfynu a oes angen rhagor o gymorth ar blentyn mewn rhyw faes arbennig. Bydd y profion darllen a rhifedd cenedlaethol yn cael eu cynnal ym mis Mai.

Pam fod angen y Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd?

Casglwyd tystiolaeth eang a oedd yn dangos fod angen i Gymru wella’i lefelau llythrennedd a rhifedd ar draws y boblogaeth:

• ymchwil ym maes cyflogwyr
• adroddiadau arolygon Estyn
• asesiadau diwedd cyfnod allweddol gan athrawon
• canlyniadau PISA

Beth yw LLYTHRENNEDD?
Ystyr llythrennedd yw defnyddio sgiliau iaith mewn gweithgareddau bob dydd yn yr ysgol, yn y cartref, yn y gwaith ac yn y gymuned.bMae llythrennedd yn disgrifio cyfres o sgiliau, gan gynnwys siarad, gwrando, darllen ac ysgrifennu mae eu hangen i wneud synnwyr o’r byd o’n cwmpas. Mae’n golygu defnyddio sgiliau llythrennedd a gwybod sut i ddefnyddio Cymraeg a Saesneg.

Beth yw RHIFEDD?

Mae rhifedd yn golygu defnyddio sgiliau mathemategol mewn gweithgareddau bob dydd ‐ yn yr ysgol, yn y cartref, yn y gwaith ac yn y gymuned. Mae rhifedd yn disgrifio’r gyfres o sgiliau y mae eu hangen i fynd i’r afael â phroblemau’r byd go iawn mewn amryw o sefyllfaoedd.

Beth yw pwrpas y Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd?

Ei bwrpas yw disgrifio’n fanwl gywir y disgwyliadau cenedlaethol blynyddol ar gyfer llythrennedd a rhifedd sydd ar ddisgyblion 5 i 14 oed (o’r dosbarth Derbyn i Flwyddyn 9 ) h.y. beth mae disgwyl rhaid i ddisgyblion ei ddysgu. Bwriad arall yw i helpu athrawon i adnabod a chynnig cyfleoedd i ddisgyblion ddatblygu sgiliau llythrennedd a rhifedd ar draws y cwricwlwm h.y. beth sy’n rhaid iddynt ei addysgu a’i asesu. Mae’r Fframwaith i fod o gymorth wrth i athrawon benderfynu ar gynnydd disgyblion mewn llythrennedd a rhifedd. Dylai fod o gymorth i athrawon lunio adroddiadau blynyddol i rieni/gofalwyr yn seiliedig ar asesiad athrawon, fel bod ganddynt ddarlun clir o gynnydd y disgybl a beth yw’r camau nesaf.

Sut bydd y Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd yn helpu ysgolion?

Dylai fod o gymorth drwy helpu athrawon i adnabod a chynnig cyfleoedd i ddisgyblion ddatblygu llythrennedd a rhifedd ar draws y cwricwlwm h.y. ym mhob pwnc (ac nid yn unig yn y Gymraeg a’r Saesneg ac mewn Mathemateg). Dylai helpu athrawon i asesu cynnydd disgyblion mewn llythrennedd a rhifedd a llunio adroddiadau blynyddol i rieni/ofalwyr. Dylai roi gwybod i athrawon, disgyblion a rhieni/gofalwyr sut mae’r disgybl yn datblygu a beth yw eu camau nesaf.

Oes yna wahaniaeth yn y gydran Llythrennedd yn y Gymraeg a’r Saesneg?

Yn syml na, does dim gwahaniaeth. Mae’r gydran llythrennedd ar gael yn y Gymraeg a’r Saesneg ac mae’n nhw’n debyg iawn. Mae’r disgwyliadau yr un fath yn Gymraeg ac yn Saesneg, gyda rhai elfennau gwahanol yn y gydran llythrennedd Cymraeg (e.e. Treigladau).

Ydy’r Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd ar gyfer pob disgybl?

Eto, yn syml ydy. Mae’r Fframwaith yn cynnwys pob disgybl, o’r flwyddyn Derbyn i Flwyddyn 9. Disgwylir i bob disgybl wneud cynnydd yn unol â’i allu. Gall disgybl gydag anghenion dysgu ychwanegol (ADY) fod yn gweithio’n îs na’r disgwyliadau ar gyfer y flwyddyn. Gall disgybl mwy abl a thalentog fod yn gweithio uwchben disgwyliadau’r flwyddyn.

Ydy’r Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd yn statudol?

YDY …

Mae wedi bod yn statudol o fis Medi 2013 h.y. rhaid athrawon ei gyflwyno a’i weithredu. Bydd asesu yn erbyn y FfLlRh yn ofyniad statudol o fis Medi 2014 h.y. rhaid i bob ysgol asesu cynnydd pob disgybl yn ôl gofynion y Fframwaith ac adrodd i rieni yn flynyddol wedi hynny.

Sut byddwn yn cael gwybod am gynnydd ein plentyn mewn llythrennedd a rhifedd?

Mae’n debygol y bydd ysgolion yn llunio adroddiad ar gynnydd pob disgybl, ac yn ei gyflwyno I rieni/gofalwyr yn flynyddol. Bydd yr adroddiad yn nodi cryfderau’r disgybl a beth sydd angen ei ddatblygu mewn llythrennedd a rhifedd. Bydd y wybodaeth yma wedi ei chasglu ar draws yr holl bynciau ar draws y cwricwlwm.

Beth am y Profion Darllen a Rhifedd?

Yn ogystal â’r Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd Cenedlaethol bydd Profion Darllen a Phrofion Rhifedd cenedlaethol yn flynyddol ar gyfer pob disgybl ym mhob blwyddyn o Flwyddyn 2 i Flwyddyn 9. Bydd ysgolion yn adrodd i rieni ar ganlyniadau’r Profion hyn yn flynyddol wedi hyn a bydd y wybodaeth yn cael ei chasglu yn genedlaethol.

Gobeithiwn fod yr ychydig wybodaeth yma yn egluro’r hyn yw’r Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd i chi.

The National Literacy and Numeracy Framework (LNF)

The National Framework identifies clear annual expected outcomes in literacy and numeracy for all learners aged 5 to 14. The Framework gives detailed descriptions of what is expected of pupils in a given year in primary and secondary school, from Reception to year 9. Both primary and secondary schools will use the Framework to make sure that the teaching of literacy and numeracy skills is embedded in all subjects across the curriculum rather than focused on English, Welsh and Maths lessons alone. The Welsh Government’s aim is to raise national literacy and numeracy standards. The Framework will allow all teachers to monitor pupils’ progress against year on year expectations. Schools will be expected to report annually on individual pupil’s progress, strengths and areas needing more support in literacy and numeracy to parents/carers as part of the annual report. These reports will start from September 2014.

What are the National Tests?

All learners in years 2 through to 9 were assessed, using the national tests, for the first time in May 2013 and every parent received information about their child’s score and reading and numeracy age. Pupils will sit Welsh and English reading tests, and this year, for the first time, there will be two numeracy tests – one test concentrating on general numeracy and one on solving mathematical problems. These results will be used by the school for planning more support for pupils in a given field. The National Reading and Numeracy tests will be held in May.

What is the National Literacy and Numeracy Framework?

The Literacy and Numeracy Framework has been developed to help schools to achieve the aims of the Welsh Government, that the children of Wales are able to develop excellent literacy and numeracy skills during their time in school.

Why do we need the National Literacy and Numeracy Framework?

Evidence for its need has come from:

• research from employers
• Estyn inspection reports
• end of Key Stage Teachers’ Assessments
• PISA results

It was judged that Wales must improve its literacy and numeracy levels across the population.

What is LITERACY?

Literacy means using language skills in daily activities at school, at home, at work and in the community. Literacy describes the series of skills (talking, listening, reading and writing), that are needed to make sense of the world around us. It means using literacy skills and knowing how to use Welsh and English.

What is Numeracy?

Numeracy means using mathematical skills in daily activities ‐ at school, at home, at work and in the community. Numeracy describes the series of skills that are needed to deal with life’s problems in a variety of situations.

What is the purpose of the National Literacy and Numeracy Framework?

It gives a detailed description of the national expectations for literacy and numeracy for learners aged 5‐ 14 (from the Reception class to Year 9) i.e. what learners must learn. It helps teachers of all subjects to identify and provide opportunities for learners to apply literacy and numeracy across the curriculum i.e. what they have to teach and assess. It will help to determine learner progress in literacy and numeracy and provide annual reports to parents based on teacher assessment so that they are all clear how learners are progressing and what the next steps are.

How will the National Literacy and Numeracy Framework help schools?

It is hoped it will help by…

• helping teachers of all subjects to identify and offer opportunities for pupils to develop literacy and numeracy skills across the curriculum i.e. in all subjects (and not only in Welsh and English language and Maths lessons);
• helping teachers to assess pupils’ progress in literacy and numeracy and write annual reports for parents/ guardians;
• helping to inform teachers, pupils and parents on the learners’ development and the next steps to take.

Is there a difference between the Welsh and English Literacy?

Basically, no…

The literacy component is available in Welsh and English and they are very similar. The expectations are the same for Welsh and English, with a few distinctive elements in the Welsh literacy component (e.g. the Mutations).

Is the National Literacy and Numeracy Framework for every pupil?

Basically, yes…

The Framework includes every learner, from the Reception class to Year 9. Every pupil is expected to make progress according to his / her ability. Pupils with Additional Learning Needs (ALN) could be working below the age related expectations. More able and talented pupils (MAT) could be working beyond the expectations for the year.

Is the National Literacy and Numeracy Framework statutory?

Again, yes…

It has been statutory since September 2013, i.e. all schools must introduce and implement the Framework. Assessing against the National Literacy and Numeracy Framework will be a statutory requirement from September 2014 i.e. all schools must assess every pupil’s progress according to the Framework and report to parents every year.

How will we have information about our child’s progress in literacy and numeracy?

At the end of every academic year all schools will present a report to parents, on the progress made by every pupil. The report will note the pupil’s strengths in literacy and numeracy and what needs to be developed further. This information will be collated from all subjects across the curriculum.

What about the Reading and Numeracy Tests?

As well as the National Literacy and Numeracy Framework there will also be annual Reading and Numeracy Tests for every pupil in Year 2 to Year 9. Schools will report to parents/guardians on the results of the Tests every year and this information will be collected nationally.

We hope that these few words manage to explain what the Literacy and Numeracy Framework is all about.